Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 5 Tachwedd 2020
Amser: 09.02 -
12.21
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6545
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Hefin David AS Suzy Davies AS Siân Gwenllian AS Laura Anne Jones AS |
Tystion: |
Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru Rachel Thomas, Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Tanwen Summers (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) Rhiannon Lewis (Cynghorydd Cyfreithiol) Masudah Ali (Cynghorydd Cyfreithiol) Phil Boshier (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Ni chafwyd dim ymddiheuriadau.
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiynydd Plant Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd
Plant Cymru.
3 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2019 - 2020
3.1 Bu’r Pwyllgor yn holi Comisiynydd Plant Cymru yn fanwl am ei Hadroddiad Blynyddol 2019 - 2020.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru 2019 - 2020: trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y ddwy sesiwn flaenorol.
6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at holl fyrddau iechyd y GIG yng Nghymru yn gofyn am eglurhad ar y wybodaeth sydd ar gael ar eu gwefannau am y llwybrau i’w dilyn i gael cymorth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc o ran eu hiechyd meddwl, ynghyd â gwybodaeth am sut i hunangyfeirio os oes angen.
6.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch bylchau o ran gofal preswyl i blant sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth.
6.4 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg ynghylch cofrestru ar gyfer athrawon mewn ysgolion annibynnol.
7 Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru): ystyried y prif faterion
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor y prif faterion ar gyfer ei adroddiad Cyfnod 1. Trafodir adroddiad drafft yn y cyfarfodydd ar 19 Tachwedd a 26 Tachwedd.
8 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021 - 2022: trafod llythyrau’r Pwyllgor at Lywodraeth Cymru
8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y llythyrau drafft.
8.2 Gofynnodd y Pwyllgor tybed a ddylai hefyd ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch cyllidebau ysgolion yn y setliad llywodraeth leol, ac at y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg ynghylch cyllid ar gyfer gweithgareddau i gefnogi addysg, datblygiad a chyfleoedd hyfforddi ar gyfer plant a phobl ifanc drwy gyfrwng Cymraeg.